Siop Gwyllt Go Iawn


Siop Gwyllt Go Iawn
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan
Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Gwyllt Go Iawn ger Hwlffordd sy’n cael ein sylw nesaf…

Ar ôl sefydlu Gŵyl Bwyd Gwyllt Go Iawn a Chefn Gwlad yn Nhŷ Ddewi, sy’n ceisio annog pobl i fynd allan i gefn gwlad i weld beth all natur ei ddarparu, ehangodd y tîm Gwyllt Go Iawn yn 2009 i agor y Really Wild Farm Shop ym Melin Nant y Coy yn Nhrefgarn ger Hwlffordd.

Mae’r siop fferm yn cael ei rhedeg gan Julia a’i gŵr Brian yn ogystal ag Adam Vincent sy’n ffermio ym Mathri ac sy’n cadw cynnyrch lleol o’r ardal gyfagos, gan gynnwys cig eidion Cymreig a thato sy’n dod o’r caeau o gwmpas y siop.

Yn ôl Julia Horton-Powell, roedd agor y siop fferm yn gam naturiol, “Ar ôl dod yn gyfarwydd ag ansawdd, blas a ffresni cyson bwydydd lleol a welwyd yn yr Ŵyl Gwyllt Go Iawn dros y pum mlynedd diwethaf, roeddem eisiau gallu cynnig bwyd o’r un ansawdd i’n cwsmeriaid trwy gydol y flwyddyn.”

Yn ogystal â chynnyrch lleol mae’r siop fferm hefyd yn rhedeg “Gwener Pysgod” i annog cwsmeriaid i fwyta pysgod gafodd eu dal oddi ar arfordir Sir Benfro.

“Mae’r moroedd o gwmpas Sir Benfro yn llawn digonedd o bysgod o bob math, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hallforio. Rydyn ni’n gwerthu pysgod lleol sy’n cael eu dal ar wialen, yn ogystal â chrancod, cimwch a chregyn bylchog bob dydd Gwener ac amrywiaeth fel pysgod y Teifi a rhai sy’n cael eu pysgota o gwrwgl yn ôl y tymor.”

Yn ôl Sioned Evans o’r ardal “Maen nhw’n hyrwyddo bwyd lleol a phob agwedd ar fywyd cefn gwlad. Y nod yw cael pobl allan i gefn gwlad i chwilota am gynhwysion gwyllt tymhorol a dysgu sut mae eu defnyddio, ac mae’r siop fferm yn cynnal a chefnogi ffermwyr, cynhyrchwyr a physgotwyr lleol.”

Dweud eich dweud