Siop Fferm Nantgwynfaen


Siop Fferm Nantgwynfaen
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Nantgwynfaen ger Llandysul sy’n cael ein sylw nesaf…

Mae Amanda, Ken a’u plant wedi byw ar fferm organig ardystiedig Nantgwynfaen ger Llandysul am y 12 mlynedd diwethaf. Yn wreiddiol, buont yn gweithio’r fferm yn fferm eidion, defaid a dofednod, ac wedyn penderfynwyd rhentu’r fferm allan a chanolbwyntio ar y siop fferm organig roeddent newydd ei hagor, a datblygu gwely & brecwast fferm ac fe sefydlodd Ken ei fusnes gwneud celfi gwladaidd.

“Rydyn ni’n gwerthu cynnyrch lleol ac organig. Rydyn ni’n teimlo ei bod yn bwysig cefnogi ffermwyr a chynhyrchwyr lleol sy’n gwneud gwaith mor bwysig yn gofalu am brydferthwch cefn gwlad Cymru. Mae ein siop yn gyfle iddyn nhw werthu eu cynnyrch hyfryd, ac mae’n wasanaeth i ymwelwyr a chwsmeriaid lleol sydd eisiau prynu bwyd lleol/organig. Gan ein bod yn chwarae rhan mor ganolog yn y broses o ddewis cig o’r ffermydd, trwy ei baratoi, ei brosesu a’i becynnu, does byth angen inni dderbyn dim ond y gorau.”

Mae’r siop fferm yn gwerthu wyau a llysiau tymhorol Nantgwynfaen yn ystod yr haf, yn ogystal â chigoedd lleol ac organig o ffermydd cyfagos, gan gynnwys eidion du Cymreig o Bach y Rhew Ffostrasol, cig oen Cymreig o fferm Wern Ddu a llysiau tymhorol organig oddi wrth Ian Hearn ym Mrongest. Mae Nantgwynfaen yn halltu eu cig moch eu hunain ac yn gwneud dewis o selsig arbenigol – cennin, Cumberland, Swydd Lincoln, Toulouse, twym Eidalaidd neu borc plaen, gan ddefnyddio dim ond porc organig o Gymru.

Mae chwalu’r camddealltwriaeth fod bwydydd lleol ac organig yn ddrutach yn rhywbeth sy’n agos at galon Amanda, “Mae ein prisiau’n gystadleuol iawn, dim ond oherwydd ei fod yn organig, dyw hynny ddim yn golygu ei fod yn ddrud. Mae prynu swmp (rydyn ni’n rhoi gostyngiad o 15% ar becynnau cig eidion) a phrynu llysiau a ffrwythau mewn swmp (rydyn ni’n cynnig gostyngiad o 10%), yn golygu nad oes raid i organig gostio mwy. Mae ein hiogwrt Rachel a’n menyn Calon Wen yn rhatach nac yn yr archfarchnadoedd.”

Dweud eich dweud