Ffeithiau difyr am fwyd a diod o Gymru

Detholiad o ffeithiau difyr am fwydydd o Gymru i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi


Tybed faint o’r ffeithiau hyn am fwydydd Cymreig oeddech chi’n gwybod amdanynt?

Allech chi ddim bwyta un cyfan

Hawliodd trigolion y Bala eu lle yn y llyfrau hanes wedi iddyn nhw goginio’r gacen gri fwyaf yn y byd ar Ddydd Gŵyl Ddewi yn 2014. Roedd yn mesur 1.5m o led, yn pwyso 21.7kg ac fe’i torrwyd yn fwy na 200 darn.

Yn y cawl

Ai ‘cawl’ yw saig genedlaethol Cymru? Yn hanesyddol cai ei wneud â chig moch wedi’i halltu neu gig eidion (cig oen erbyn hyn) a rwdan, moron a thatws. Yn y Gogledd fe’i gelwir yn ‘lobsgóws’. Mae cawl cennin yn defnyddio stoc cig a chennin a chaiff ei weini gyda bara a chaws.

Viva la bara brith

Pan hwyliodd y Cymry i’r Ariannin yn 1865 i chwilio am fywyd gwell, aethant â’u bara enwog, mae’n ddrwg gen i, cacen, gyda nhw. Ewch i dŷ te Cymreig unrhyw le yn nhalaith Chubut yn yr Ariannin ac fe welwch fara brith ar y fwydlen. Mae fel arfer yn felys ac yn fwy o gacen nac o fara, yr enw yn Sbaeneg arni yw torta negra, neu gacen ddu.

Gwychfwyd o Gymru

Mae bara lawr yn cynnwys lefelau uchel iawn o fitamin D ac roedd glowyr yn hoff ohono gan ei fod yn helpu lleddfu’r oriau hirion dan ddaear heb deimlo fawr ddim o belydrau’r haul os o gwbl. Roedd yr actor Richard Burton yn galw bara lawr yn ‘caviar y Cymry’ ac mae cofnodion cynnar yn sôn am wymon yn cael ei fwyta yn fwyd goroesi gan bobl yn dianc rhag ymosodiadau’r Llychlynwyr.

Cyfraith y caws

Mae cymal yn y cod cyfreithiol Cymreig o’r oesoedd canol o’r enw Cyfreithiau Hywel Dda (AD 880-950) yn awgrymu fod caws yn aml yn cael ei fwydo mewn heli. Yn ôl y cyfreithiau, tra bod y caws yn dal yn yr heli roedd yn eiddo’r wraig, ond unwaith yr oedd allan o’r heli (ac yn barod i’w fwyta) roedd yn eiddo’r gŵr. Byddai’r gwahaniad yma’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn cytundebau ysgaru.

Triniaeth dawel

Cyflwynodd y cartwnydd o America Winsor McCay ddehongliad diddorol o effeithiau saig caws pob o Gymru, lle’r oedd cymeriadau yn aml yn deffro o freuddwydion ar ôl bwyta’r saig. Cyhoeddwyd ei stribed comig o’r enw ‘Dream of the Rarebit Fiend’ mewn papurau newyddion o 1904 i 1925, ac fe’i gwnaed yn ffilm dawel o’r un enw yn 1906.

Y cwrw sy’n siarad

  • Bragdy enwog Felin-foel oedd y bragdy cyntaf y tu allan i’r Unol Daleithiau i werthu cwrw mewn caniau
  • Mae rhai haneswyr yn honni y defnyddiodd Arthur Guinness rysáit o Gymru o Lanfairfechan ger Bangor ar gyfer ei stowt
  • Mudodd Joseph ‘Job’ Daniels i America yn y 18fed ganrif o Aberystwyth. Daeth ei ŵyr Jack yn grëwr y chwisgi poblogaidd Jack Daniels y mae pobl dros y byd yn ei fwynhau heddiw.

Dweud eich dweud