Siop Fferm Swan

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Swan ger Corwen sy’n cael ein sylw nesaf…



Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Swan ger Corwen sy’n cael ein sylw nesaf…

“Roedden ni eisiau gwerthu’n cynnyrch yn syth i’n cwsmeriaid, a’u haddysgu am fwyd tymhorol” yw disgrifiad Gail Swan o’r hyn a’u hysbrydolodd i sefydlu siop fferm Swan’s. A hithau wedi’i lleoli ar ffordd yr A5104, Corwen i Gaer, agorwyd y siop fferm bwrpasol yn 2003 er mwyn gallu arallgyfeirio ar eu fferm fynydd draddodiadol 240-erw.

A hithau ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul yn gwerthu eidion wedi’i fagu, cyw iâr, wyau buarth a chyn bo hir, porc buarth (anrheg Nadolig annisgwyl i Gail gan ei gŵr), mae’r fferm hefyd yn tyfu llysiau’r tymor a ffrwythau’r berllan ar gyfer y siop. Mae cegin y siop yn cynhyrchu pasteiod, tartenni a chacennau traddodiadol, a phrydau heb atodion ac ychwanegion. Yn ôl Gail, “mae’r arogleuon o’r gegin i’w clywed i lawr y ffordd, sy’n golygu fod ein cymdogion a’r ymwelwyr yn gwybod pan mae’r pasteiod wedi dod allan o’r popty – mae’n hysbysebu gwych.”

Tra bod Gail a Clive yn canolbwyntio ar y fferm, maen nhw’n cyflogi 8 o bobl yn y siop. Mae cwsmeriaid yn cael yr holl newyddion diweddaraf am y fferm o’r bwletinau sy’n cael eu harddangos yn y siop. “Mae tarddiad y bwyd yn bwysig i’n cwsmeriaid ac rydyn ni eisiau rhoi gwybod iddyn nhw beth allan nhw ddisgwyl ei weld yn y siop. Rydw i hefyd yn mynd i ysgolion lleol i addysgu’r plant am eu bwyd ac o ble y daw.”

Dweud eich dweud