Siop Fferm Glasfryn


Jonathan Williams-Ellis a staff y siop
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Glasfryn ger Pwllheli sy’n cael ein sylw ar hyn o bryd…

Sefydlwyd y siop fferm, sydd wedi’i lleoli ar yr A499 ger Pwllheli ac sy’n rhan o Ganolfan Weithgareddau Glasfryn, yn 2001 er mwyn gwerthu Cig Eidion Gwartheg Duon Ystâd Parc Glasfryn, Cig Oen Llyn, porc, cig moch a helgig yn uniongyrchol i gwsmeriaid. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, mae’r siop fferm wedi ennill nifer o anrhydeddau a gwobrau gan gynnwys Gwobr Menter Fferm yng Ngwobrau Gwir Flas 2009. Yn ogystal â’u cynnyrch eu hunain maent yn gwerthu cynnyrch lleol o safon uchel o Benrhyn Llyn gan gynnwys caws, siytni, jam ac enllyn wedi’u gwneud yn lleol. Sicrhau bod milltiroedd bwyd yn cael eu cadw mor isel ag sy’n bosibl oedd un o brif ymrwymiadau sefydlu’r fenter a’i pherchennog Jonathan Williams-Ellis.

Ar hyn o bryd mae’r siop fferm yn cyflogi dau gigydd llawn amser ac yn cynhyrchu Cig Moch Pen Llyn, cig moch traddodiadol wedi’i halltu sydd wedi ennill sawl gwobr i Glasfryn gan gynnwys Gwobr Aur y DG yng Ngwobrau Blas Arbennig 2009.

Yn ôl Mrs Gwawr Jones o Langybi, “Mae’r cig o Siop Fferm Glasfryn yn wirioneddol wych. Fe allwch chi brynu popeth yma hefyd – o laeth a menyn i fwydydd arbennig, bisgedi ac ati.”

Mae cymaint o alw am gynnyrch yr ystâd fel bod cynlluniau ar y gweill i ddyblu maint y siop fferm, a bydd yr adeiladu’n cychwyn yn y gwanwyn yn barod ar gyfer misoedd yr haf.

Dywedodd Jonathan Williams-Ellis, “Mae Siop Fferm Glasfryn yn falch o werthu amrywiaeth eang o gynnyrch lleol Cymreig, gan gynnwys Cig Eidion Gwartheg Duon Cymreig a Chig Oen Llyn o’n fferm ni. Rydw i’n gobeithio wrth ddyblu maint y siop yn ddiweddarach eleni y byddwn yn gallu cynnig mwy fyth o ddewis i’n cwsmeriaid.”

Dweud eich dweud