Chef on the run

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Mike Carnel, neu’r ‘Chef on the Run’ sy’n cael ein sylw

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc
Mike a Rachel
sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Mike Carnel, neu’r ‘Chef on the Run’ sy’n cael ein sylw nesaf…

Mae ’na rai pobl benderfynol iawn i’w cael, ac mae Mike Carnell o ‘Chef on the run’ yn un o’r bobl hynny. Ar ôl torri’i ddwy goes mewn plymiad awyr i elusen ugain mlynedd yn ôl, cafodd ei orfodi i roi’r gorau i’w waith am dros ddwy flynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw canolbwyntiodd Mike ar beth oedd yn mynd â’i fryd – coginio. Fe weithiodd yn gogydd yn ardal Aberhonddu a’r Gelli Gandryll am dros 10 mlynedd. Doedd Mike byth yn un i droi ei gefn ar sialens felly penderfynodd ddechrau busnes arlwyo gyda’i wraig Rachel ynghyd ag hyfforddi ar gyfer marathon Llundain yn 2002. Cafodd ei enwi’n lleol yn ‘Chef on the run’, felly penderfynodd Mike mai dyma fyddai enw’i fusnes arlwyo newydd.

Fe gafodd ailbwl arall a bu nô yn yr ysbyty. Gorfododd hyn Mike i roi’r gorau i’w waith am dros 18 mis a newid ei ffordd o fyw yn sylweddol. Doedd Mike ddim yn un i eistedd o gwmpas felly dechreuodd arbrofi gyda ryseitiau traddodiadol am jamiau a siytni a rhoi ei jamiau cartref i ffrindiau a theulu. Fe ysgogodd eu hadborth positif Mike i ddatblygu casgliad unigryw o jamiau a’u gwerthu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol a gŵyl fwyd. Mae amrywiaeth jamiau ‘Chef on the run’ yn cynnwys marmalêd rym a rhesin, marmalêd grawnffrwyth a sinsir, eu marmalêd ‘Wow’ sy’n cynnwys chwisgi, oren a chnau Ffrengig, a jam mefus, rhosyn a siampaen pinc.

“Rwy’n hoffi defnyddio ryseitiau hen ffasiwn a thraddodiadol ond ychwanegu rhyw agwedd fodern fy hun. Dim ond cynhwysion naturiol fyddwn ni’n eu defnyddio, rhai ohonynt wedi’u tyfu gartref, heb unrhyw gadwolion, ychwanegion neu ddeunyddiau setio.” medd Mike.

I’r rhai ohonoch sy’n gobeithio gweld ‘Chef on the run’, mae Mike a Rachel yn mynychu sawl gŵyl fwyd gan gynnwys gŵyl fwyd y Gelli Gandryll ym mis Mehefin a Thachwedd a gŵyl fwyd Canolfan Fynydd Libanus ym mis Mehefin. Dechreuodd Mike a Rachel redeg Ystafelloedd Te yr Hen Stablau yn y Gelli Gandryll bedair blynedd nôl – bu modryb Rachel yn rhedeg yr ystafelloedd te am ugain mlynedd cyn hynny. Ar ôl diwrnod prysur yn rhedeg yr ystafell de mae Mike a Rachel yn troi eu sylw at wneud jam yng nghegin yr ystafell de, sy’n golygu y gall ymwelwyr bodlon fynd â’r jam adref gyda nhw.

Mae jamiau ‘Chef on the run’ wedi ennill nifer o anrhydeddau’r diwydiant gan gynnwys Cynhyrchydd Cynnyrch Arbennig y Flwyddyn yng Ngwobrau Blas Arbennig y DG yn 2008, enillydd y gil wobr yng Ngwobrau Gwir Flas Cymru a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Bwyd o Ansawdd 2009.

 

Dweud eich dweud