Siop Fferm Cwmcerrig

Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop fferm Cwmcerrig sy’n cael ein sylw nesaf…


Siop Fferm Cwmcerrig
Y diweddaraf mewn cyfres o astudiaethau achos gan Fforch i Fforc sy’n edrych ar farchnadoedd ffermwyr, siopau fferm a’u cynhyrchwyr. Siop Fferm Cwmcerrig sy’n cael ein sylw nesaf…

Pan ddaeth teulu’r Watkins at ei gilydd i greu menter arallgyfeirio ar y fferm – yr hyn a gawson ni oedd siop fferm Cwmcerrig. A hithau wedi’i lleoli oddi ar yr A48 yn Sir Gaerfyrddin, mae’r siop 8,000 tr. sg. yn fenter deuluol go iawn rhwng 5 brawd, y mae eu teulu wedi bod yn ffermio ar y safle ers yr 1950au. Agorwyd y siop ym mis Mawrth 2009, ac erbyn hyn mae’r siop fferm yn cyflogi mwy na 40 o bobl ac mae o leiaf 80% o gynnyrch y siop fferm yn cael ei gynhyrchu’n lleol yn Sir Gâr.

Mae cegin y siop fferm yn cynhyrchu nifer fawr o gynhyrchion ac mae’r cig sy’n cael ei werthu yn y siop hefyd yn dod o fferm Cwmcerrig ei hunan – o’r fforch i’r fforc yng ngwir ystyr y gair. Yn ogystal â’r siop mae croeso i bobl alw heibio am damaid i’w fwyta ym mwyty’r siop fferm, sy’n cynnig prydau rhost o ddydd Mercher i ddydd Sul.

“Rydyn ni wedi cael pobl yn galw heibio o bob rhan o’r byd, maen nhw’n meddwl ei bod yn wych ein bod yn ceisio dal ati gyda’r gwaith da” meddai Roland Watkins o Gwmcerrig.

Mae’r siop fferm yn ceisio darparu ar gyfer y teulu cyfan trwy gynnig lle chwarae i’r plant a llociau ar gyfer anifeiliaid fel Merlod Shetland, Defaid Jacob, Ceffylau a Gwartheg Hereford.

Yn ôl Clive Scourfield o Gorslas, “Cig a llysiau o’r safon uchaf wedi’i gynhyrchu’n lleol ac sydd hefyd ar gael yn y bwyty – lle da i alw’n ôl am ragor.”

A beth am y dyfodol i Gwmcerrig? Yn ôl Roland, maen nhw’n rhy brysur ar hyn o bryd i feddwl am unrhyw ddatblygiadau mawr eraill, er ei fod yn cyfaddef yr hoffai weithio ar lwybr cerdded Cwmcerrig trwy’r goedwig sy’n amgylchynu’r fferm.

Dweud eich dweud