Arbenigwyr gwin Blas ar Fwyd yn Llanrwst sy’n cynnig cyngor ar ba winoedd fydd yn gwneud anrhegion da eleni, ynghyd â pha winoedd fydd yn blasu orau gyda’ch twrci!
Gyda’r Nadolig a cyfnod o gymdeithasu gyda ffrindiau a theulu yn agosáu, dyma’r amser gorau i chwilio am winoedd gwahanol ar gyfer pob math o ddathliad.
Er mwyn bod o gymorth dyma restr fer o winoedd arbennig, ynghyd a nodiadau blasu, ar gyfer y tymor.
‘Rydym wedi gweithio prisiau arbennig ar gyfer y detholiad yma, ac er mwyn helpu’r achos nid oes cost danfoniad am ddanfon chwe’ potel i unrhyw gyfeiriad yng Nghymru.
Cyfle da i ddanfon anrhegion i gyfeillion ella!
Wrth gwrs mae gennym gannoedd o wahanol winoedd safonol ar brisiau cystadleuol iawn yn ychwannegol i hyn, ac os ydych eisiau cyngor am flwch o win arbennig cysylltwch a ni.
Gallwn gynghori detholiad i’ch plesio neu gallwn argymell blwch i gyllideb arbennig. Gall hynny fod yn flwch £40 neu hyd yn oed £200.
Cysylltwch a Deiniol trwy ebost neu ffôn i drafod eich anghenion.