Cyhoeddi Adroddiadau Bwyd Organig

Adroddiadau’n datgelu meysydd twf a heriau gwerthiant organig


Adroddiadau’n datgelu meysydd twf a heriau gwerthiant organig

Mae Adroddiad Marchnad Organig a gyhoeddwyd gan Gymdeithas y Pridd ddiwedd mis Mawrth yn amlygu meysydd twf allweddol mewn manwerthu ar-lein, mannau gwerthu annibynnol a symudiad tuag at ddefnyddwyr iau yn ystod 2012.

Yn gyffredinol, mae’r farchnad wedi dowcio 1.5% wrth i’r DU barhau i fynd drwy’i dirywiad economaidd mwyaf heriol ers degawdau lawer. Fodd bynnag, mae’r adroddiad yn rhagweld dyfodol cadarnhaol i farchnad organig y DU.

Mae’r adroddiad yn cyd-fynd â rhyddhau Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru, a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, sy’n datgelu tueddiadau a heriau i’r dyfodol ar gyfer y sector organig yng Nghymru.

Cynnydd mewn gwerthiant

Er gwaetha’r gostyngiad o 1.5% yn gyffredinol ar draws y DU,  ceir nifer o dueddiadau cadarnhaol yn y sector organig yng Nghymru.

Mae Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru wedi datgelu galw cryf am gig organig, gyda gwerthiant cig eidion wedi codi 32% a chig oen i fyny 69% (ar gyfer cig oen sy’n barod i’r farchnad), yn ogystal â thwf 10.6% yng ngwerthiant llaeth organig.

Er gwaetha’r ffigurau hyn, a gafodd hwb yn sgil nifer o ffermydd yng Nghymru’n cwblhau eu hardystiad organig yn 2011-12, ceir pryder y bydd y cyfuniad o bwysau ar brisiau porthiant organig a newidiadau i gymorthdaliadau i ffermwyr organig yn gorfodi llawer o gynhyrchwyr organig Cymru i droi’n ôl at gynhyrchu’n anorganig yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Gwerthu’n uniongyrchol

Bu Arolwg Cynhyrchwyr Organig Cymru hefyd yn amlygu twf mewn gwerthiant uniongyrchol yn ystod 2012, gyda bron i draean (28%) o gynhyrchwyr sy’n ymwneud â gwerthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd yn gweld cynnydd yn eu gwerthiant, gyda 55% yn adrodd nad oedd newid sylweddol i’w weld.

Cig (48%) a llysiau (29%) o hyd yw prif elfen y farchnad gwerthu uniongyrchol, gyda thros hanner (54%) y cynhyrchwyr sy’n ymwneud â gwerthu’n uniongyrchol yn dibynnu ar gwsmeriaid unigol am dros 80% o’u trosiant.

Dyma dueddiad sy’n cael ei adleisio ar lefel y DU, gydag Adroddiad Marchnad Cymdeithas y Pridd yn datgelu bod cyflenwyr cig organig annibynnol wedi sôn am gynnydd yn eu gwerthiant hyd at 20% dros y mis diwethaf. Mae’r cynnydd hwn wedi cyd-fynd â’r sgandal ddiweddar ynglŷn â chig ceffyl sydd wedi arwain at ffigurau gwerthiant uwch ar draws gwerthwyr annibynnol ac archfarchnadoedd.

Mae data Kantar Workpanel wedi datgelu bod gwerthiant archfarchnadoedd organig wedi cynyddu ym mis Chwefror i’w lefel uchaf mewn 9 mis.

Dim syndod

Wrth siarad am Adroddiad Marchnad y DU, dywedodd Jim Twine, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Cymdeithas y Pridd nad oedd y gwerthiant isel yn syndod.

“Yn y dirywiad economaidd gwaethaf o fewn cof, nid yw’n syndod gweld gwerthiant tawel o ran amrywiaeth o nwyddau a gwasanaethau – ac nid yw’r sector organig yn y DU yn ddiogel rhag hyn.”

“Er gwaethaf gostyngiad mewn gwerthiant yn gyffredinol, mae yna feysydd lle ceir twf sylweddol sy’n cael eu hamlygu yn Adroddiad y Farchnad Organig 2013. Mae Cymdeithas y Pridd yn dal yn hyderus y bydd y farchnad organig yn y DU yn dychwelyd at dwf – mae’n fwy anodd gwybod yn union pryd.”

“Mae perygl go iawn os na fydd manwerthwyr yn gweithio’n agosach â ffermwyr a thyfwyr organig y DU, gallai’r farchnad ddod yn gyfyngedig oherwydd diffygion cyflenwi. Dengys yr adroddiad, lle mae manwerthwyr wedi buddsoddi yn eu hystod o nwyddau organig, mae eu canran o’r farchnad yn tyfu – ac mae defnyddwyr sydd wedi troi at nwyddau organig yn parhau’n deyrngar iawn.”


Jonathan Rees o Fferm Organig Graig - "pobl yn chwilio am safon uchel bwyd ac yn troi at fwydydd organig"
Cymru’n Dioddef

Mae’r neges hon i’r Llywodraeth yn cael ei hadleisio yng Nghymru, lle mae cost gynyddol porthiant organig yn cael ei chwyddo gan gynnydd mewn costau tanwydd, gyda chyflenwadau’n gorfod teithio cymaint ymhellach.

“Er gwaethaf rhai ffigurau gwerthiant calonogol y sonnir amdanynt gan gynhyrchwyr organig yng Nghymru, does dim amheuaeth bod y newidiadau i gymorthdaliadau’n mynd i daro’n galed a gall allbynnau organig ddioddef o’r herwydd,” meddai Neil Pearson o Ganolfan Organig Cymru.

Rydym yn cydweithio â nifer o gynhyrchwyr ar gynlluniau arloesol a fydd yn eu galluogi i wrthbwyso rhai o’r codiadau mewn prisiau porthiant a cheir tystiolaeth bod mwy o ffermydd organig yn edrych ar ffyrdd o arallgyfeirio i ategu eu hincwm trwy gnydau a da byw, ond er gwaetha’r ymdrechion hyn cafodd ein harolwg fod hyder yn dal i fod yn fater o bwys.”

Cafodd arolwg diweddaraf Cynhyrchwyr Organig Cymru fod 15% o ffermwyr organig yn ystyried troi’n ôl at ddulliau anorganig dros y 12 mis diwethaf – ffigur sydd heb godi dros 3% ym mhob un o’r pedair astudiaeth flaenorol – a chododd hyn i 47% wrth ystyried y ddwy flynedd nesaf.

“Yn draddodiadol mae Cymru wedi bod yn bwysicach na’i maint o ran cynhyrchu organig, ond mae canlyniadau’r arolwg diweddaraf yma’n awgrymu y gallai cymaint â 42% o arwynebedd ein tir organig gael ei droi’n ôl i statws anorganig os bydd amodau presennol y farchnad a pholisïau ynghylch cymorthdaliadau’n parhau fel y maent,” rhybuddiodd Mr Pearson

Ar adeg pryd mae canfyddiad y cyhoedd yn dangos symudiad tuag at fwyd sy’n dod o ffynonellau cyfrifol a’r farchnad ehangach ar gyfer nwyddau organig yn dangos arwyddion adferiad yn y DU, byddai’n bechod pe bai cynhyrchwyr Cymru’n cael eu gorfodi i adael y farchnad.”

Dweud eich dweud