Adolygiad Bwyty: Mint and Mustard, Caerdydd

Dylan Jenkins fu’n bwyta ym mwyty Indiaidd y Mint and Mustard yng Nghaerdydd.


Mint and Mustard (llun o wefan y bwyty)
Dylan Jenkins fu’n bwyta ym mwyty Indiaidd y Mint and Mustard yng Nghaerdydd.

I fyfyriwr yng Nghaerdydd mae gwylio’r balans banc yn bwysig, felly mae’n bleser dod ar draws bwyty lle mae’r arian werth ei wario. Dyna a’m swynodd i i fwyta yn y Mint and Mustard, ar Stryd Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, pum munud i ffwrdd o ‘nghartref yn Cathays.  Gyda’r addewid o fwyd Indiaidd o safon, a dau gwrs am £8.95, roedd yn anodd gwrthod, yn enwedig gan mai’r Mint and Mustard yw’r unig fwyty yng Nghaerdydd i frolio statws Bib Gourmand Michelin – statws sy’n dynodi bwyd o safon uchel am bris cymedrol.

Cefais i a fy nghariad Gwenno groeso cynnes, a’n tywys i’n bwrdd yn syth, y gerddoriaeth draddodiadol yn gyfeiliant hamddenol yn y cefndir ac yn is-bwyslais o dôn safonol, foethus y bwyty.  Roedd y gweinydd yn gyfeillgar iawn, yn barod i’n harwain ni drwy’r dewisiadau, yn amlwg yn angerddol ac yn falch o’r fwydlen. Gwasanaeth ddaeth a gwen i’n hwynebau.

Dau ddewis oedd yn rhan o’r cynnig dau gwrs am £8.95, er bod y fwydlen A la Carte gynhwysfawr wastad ar gael hefyd, yn llawn o brydau cyffrous, rhai wedi ennill gwobrau am eu safon. Aeth y gweinydd â ni drwy’r dewisiadau, gan egluro pob un. Gwerthwyd y fwydlen i ni’n syth.

Dewisais i’r Seekh Kebab, cyfuniad blasus o gig oen a phupur gloch wedi ei grilio mewn sbeisiau Tandoor, tra aeth Gwenno am y Murgh Tikka -tameidiau o gyw iâr wedi’i drwytho mewn marinâd o arlleg, cnau coco a naddion almon.


Cychwyn cyffrous

Daeth y bwyd yn brydlon iawn, wedi’u cyflwyno’n lluniaidd ar blât hir, gyda salad roced a Bombay Chaat (cyfuniad clyfar o nwdls vermicelli, iogwrt fintys a siytni cartref) bob ochr i’r cig. Prydlondeb oedd un o fy hoff agweddau i o brofiad y Mint and Mustard, gyda phob cwrs yn cyrraedd yn chwim.

Awgrymwyd i ni fwyta’r Bombay Chaat mewn un cnoad – cnoad bywiog a chelfydd, yn simsanu rhwng oerni’r iogwrt a sbeis meddal y siytni, y cyfan oll yn toddi’n drawiadol yn y geg. O’r cychwyn cyntaf, dangosodd y bwyty i ni pam ei bod hi wedi sefyll yn un o fwytai fwyaf llewyrchus Caerdydd ers rhai blynyddoedd bellach, a pham fod yr enw Mint and Mustard wedi ymddangos ar restrau bwytai gorau’r Observer Food Monthly a’r Sunday Times.

Fe rannom ni’r ddau bryd gyntaf – roedd y cig oen yn hyfryd, yn feddal ac yn flasus, a’r salad yn gyfeiliant bywiog yn erbyn cynhesrwydd y cig, gydag olion o saws ffrwythus yn isbaent nwyfus i gampwaith o bryd. Ni chefais i fy siomi gan y cyw iâr chwaith – y tu fas yn gras, a’r tu fewn yn ffrwydro blas, ar y cyfan wedi’i goginio’n berffaith. Pryd cychwynnol cyffrous a gofiadwy felly, yn rheswm yn eu hunain i ddod yn ôl.


Y pwdin yn perswadio

Gofynnodd y gweinydd os oedden ni’n barod am yr ail gwrs wrth iddo glirio’n platiau, a doedd dim lawer o aros felly am ein prif gwrs. Roedd golwg llai trawiadol ar y prif gyrsiau, y ddau wedi’i gweini’n blaen mewn bowlenni gyda reis fasmati.

Dewisais i’r Swordfish mewn cymysgedd o fango amrwd a sinsir, ac fe gafodd Gwenno’r Saag Gosht, cig oen wedi’i goginio’n araf gyda sbigoglys, garlleg, cumin a dail fenugreek. Fel y mae hi’n aml, dyfarais beidio mynd am bryd Gwenno, gan mai hwnna y safodd allan, yn fy marn i.

Roedd y cig wedi’i goginio’n berffaith, yn rhwygo i ddarnau’n hawdd ac yn cynnig blas bendigedig, yn cyd-fynd yn dyner gyda’r sbigoglys gan gydbwyso â chynhesrwydd a blas daearol y cumin a’r garlleg.

Roedd y Swordfish yn hyfryd hefyd, er bod blas y pysgodyn yn cael ei golli ychydig yng nghyfoethogrwydd y saws – efallai’n cael ei oroesi ychydig gan y mango. Ond fe blesiodd popeth yn sicr, a’n gadael ni’n llawn. Er hyn profodd y fwydlen yn rhy gyffrous i’w anwybyddu, ac wedi i’r gweinydd werthu’r bwyd mor dda unwaith eto, penderfynom ni gael pwdin.


Daeth y pwdinau â delwedd arloesol a chyfoes y bwyty yn ôl i’r amlwg, y ddwy ddysgl yn edrych yn ffantastig. Dewisais i’r brulee rhosyn, twist ar y pwdin enwog gyda blas a lliw phetalau rhosynnau’n ganolbwynt, yn cyflwyno blas cryf petalau’r rhosyn mewn modd cynnil, esmwyth, a hynod o flasus.

Aeth Gwenno am y Chocomosa, samosas wedi’u llenwi a ganache siocled, ar ben bananas wedi’u carameleiddio a hufen ia fanila cartref. Yn ddau bryd ffres a gwahanol, yn cyflwyno traddodiad mewn masg cyfoes, heb golli’r naws gysurus gartrefol, daeth ein pryd i ben gyda mwynhad pur. Dau bryd, gan gyd-fynd â gweddill y profiad, fydd yn aros yn y cof am amser.

Celfydd

Ar y cyfan roedd hi’n bryd ardderchog, ac yn rhesymol iawn – yn £8.95 am ddau bryd gyda’r ddau bwdin yn £4.50 yr un, a basged o mini-popadoms a dewis o siytni’s cartref yn £3.75 (teg os gaiff y fasged ei rhannu).

Roedd pob pryd wedi’i chynllunio a’i greu yn gelfydd, gyda’r cwrs cyntaf a’r pwdin yn eu hunain yn rhesymau i fynd nôl, y ddau’n sefyll allan yn ffinio ar berffeithrwydd.

Safai’r Mint and Mustard ar ei bedestal priodol, ar lefel hollol ar wahân i’ch Indian arferol, gyda’r cynnig o ginio cyflym, swper swmpus neu takeaway sy’n sicr werth yr arian.

Yn un o brofiadau bwyta gorau Caerdydd, gyda’i fwyty chwaer Chai Street hefyd yn gwneud enw da i’w hun, mae’r Mint and Mustard yn ffres, yn gyfoes, ac yn bwysicach oll, yn flasus.

Gallwch weld bwydlenni cinio, nos a takeaway, a mwy o wybodaeth ar wefan y Mint and Mustard

Ymunwch â’r sgwrs

Richard James`
Richard James`

cytuaf i’r carn dylan!