Mae mwy o bobol wedi gwylio fideo’r rapiwr o Dde Corea, PSY, nag unrhyw fideo arall ar YouTube.

Mae’r fideo Gangnam Style bellach wedi cael ei wylio 805 miliwn o weithiau, gan guro fideo Justien Bieber, Baby.

Mae’r fideo a’r ddawns sydd ynddi yn boblogaidd ar draws y byd. Mae’r ddawns yn ymdebygu at rywun yn marchogaeth ceffyl.

Mae hyd yn oed Ban Ki-Moon, Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, ac sydd hefyd yn dod o Dde Korea, wedi rhoi cynnig ar ddawnsio’n gyhoeddus fel PSY.