Barack Obama
Mae sgandal rhyfedd a rhyfeddol am ddau gadfridog Americanaidd wedi gorfodi’r Arlywydd i ohirio penodiad pwysig.

Roedd Barack Obama wedi bwriadu cyhoeddi mai’r Cadfridog John Allen fyddai pennaeth cynghrair NATO yn Ewrop ond mae wedi gorfod gohirio hynny tra bod ymchwiliad ar droed i’w ymddygiad.

Mae’r cyfan yn cynnwys perthynas rywiol, e-byst awgrymog, cenfigen rhwng dwy ddynes a gwybodaeth gyfrinachol.

Perthynas Petraeus

Mae’r datblygiad diweddara’n dod ar ôl i bennaeth y CIA, sef cadfridog enwoca’r wlad, David Petraeus, orfod ymddiswyddo ar ôl cyfadde’i fod yn cael perthynas rywiol gyda’r ddynes a sgrifennodd ei fywgraffiad.

Yn ôl ymchwilwyr, roedd hynny wedi arwain at ddatgelu peth gwybodaeth gyfrinachol ac mae’r helynt wedi rhoi terfyn ar yrfa’r dyn a fu’n bennaeth byddin yr Unol Daleithiau yn Irac ac Afghanistan.

E-byst Allen

Yn awr mae’r sgandal wedi lledu at Allen, olynydd Petraeus yn Afghanistan, ar ôl i’r ymchwilwyr ddod o hyd i negeseuon e-bost ganddo yntau at wraig adnabyddus yn Tampa, lle mae pencadlys y fyddin.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg yn yr Unol Daleithiau, roedd rhai o’r e-byst hynny at Jill Kelly yn cynnwys tipyn o fflyrtio.

Fe ddaeth y negeseuon i’r amlwg ar ôl i Kelley gwyno am e-byst eraill, dienw, yr oedd wedi eu derbyn – fe ddaeth yn amlwg bod y rheiny wedi dod oddi wrth feistres Petraeus, Paula Broadwell.

Mae’n ymddangos ei bod hi yn genfigennus o’r sylw yr oedd Petraeus yn ei roi i Jill Kelly … roedd honno yn ei thro wedi gofyn i Allen am help.

Mae Allen, 58 oed, yn gwadu ei fod wedi gwneud dim o’i le.