Yr Arlywydd Barack Obama - ychwanegu Florida at ei lwyddiannau
Bedwar diwrnod ar ôl yr etholiad yn America, mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cael ei gadarnhau fel enillydd Florida – yr unig dalaith a oedd ar ôl heb gyhoeddi ei chanlyniadau.

Ar ôl gorffen cyfri’r pleidleisiau heddiw, cyhoeddwyd fod Obama wedi cael 50% o’r bleidlais o gymharu â 49.1% i’w wrthwynebydd Mitt Romney – mwyafrif o tua 74,000 o bleidleisiau.

Yn sgil ennill Florida, fe fydd ymhell ar y blaen – o 332 i 206 – yn y coleg etholiadol y mae canlyniad terfynol yr arlywyddiaeth yn dibynnu arno.

O’r naw talaith ymylol allweddol, llwyddodd Obama i ennill wyth, gan golli dim ond un, North Carolina, i Romney.

Florida oedd y dalaith lle collodd y Democrat Al Gore o drwch blewyn ar ôl wythnosau o ymrafael cyfreithiol yn 2000 er iddo gael mwy o bleidleisiau ledled y wlad na’r enillydd George W Bush.