Barack Obama - a fydd yn cael pedair blynedd arall fel arlywydd ddydd Mawrth?
Gyda deuddydd yn unig i fynd tan etholiad arlywyddol America ddydd Mawrth, mae’n ymddangos bod Barack Obama fymryn ar y blaen i Mitt Romney yn rhai o’r taleithiau allweddol.

Mae’r ddau ymgeisydd yn rhy agos at ei gilydd yn y poliau cenedlaethol i allu darogan unrhyw ganlyniad yn hyderus, a’r gred yw y bydd yr allwedd i’r Tŷ Gwyn yn dibynnu ar ganlyniadau naw talaith.

Y rhain yw: Ohio, Florida, Virginia, North Carolina, Colorado, Nevada, Wisconsin, Iowa a New Hampshire. O’r rhain, Ohio a Florida, y ddwy dalaith fwyaf poblog, yw’r bwysicaf.

Er bod poliau’n dangos Obama fymryn ar y blaen yn y taleithiau hyn, nid oes agos cymaint o fwlch y tro hwn ag oedd rhyngddo a John McCain yn 2008.

Fe wnaeth y ras rhwng y ddau dynhau ar ôl perfformiad gwael gan Obama yn y ddadl arlywyddol gyntaf ar Hydref. Eto i gyd, mae rhai Gweriniaethwyr yn cyfaddef yn ddistaw nad yw Romney wedi torri trwodd ddigon yn y taleithiau mwyaf i allu sicrhau buddugoliaeth.

Digwyddiadau mawr

Gyda chyfres o ddigwyddiadau mawr wedi eu trefnu ar gyfer y tridiau olaf mae Barack Obama yn cynnal dwy rali ar y cyd gyda’r cyn-arlywydd Bill Clinton – yn Virginia neithiwr a New Hampshire heddiw. Roedd y ddau wedi bwriadu ymgyrchu’n gynharach yn yr wythnos ond fe fu’n rhaid iddo newid ei gynlluniau oherwydd storm Sandy.

Mae Mitt Ronmey hefyd yn treulio’r tridiau olaf ar wibdaith trwy’r taleithiau allweddol.

Mae hi’n yn rhy gynnar i allu darogan effeithiau’r storm ar y patrwm pleidleisio. Ar y llaw arall, mae’n sicr nad yw wedi gwneud dim drwg i Obama hyd yma, wrth iddo gael ei weld yn ymateb i’r argyfwng yn ei swydd fel arlywydd. Dywedodd un sylwebydd gwleidyddol fod y ganmoliaeth hael a gafodd gan Lywodraethwr Gweriniaethol New Jersey yn werth mil o hysbysebion.

Mae 25 miliwn o Americanwyr eisoes wedi pleidleisio, ac er na fydd unrhyw bleidleisiau’n cael eu cyfrif tan nos Fawrth, mae ffigurau ynghylch y niferoedd o bleidleiswyr sydd wedi cofrestru gyda’r naill blaid neu’r llall, eto’n rhoi rhywfaint o hyder i’r arlywydd.

Yr awgrym yw bod mwy o Ddemocratiaid nag o Weriniaethwyr wedi pleidleisio yn amryw o’r taleithiau allweddol hyd yma.