Pab Benedict XVI
Mae’r Pab wedi enwi saith o seintiau newydd ar ddechrau’r hyn sy’n cael ei alw’n “Blwyddyn o Ffydd.”

Mae’r saith yn cynnwys Kateri Tekakwitha, Americanes frodorol o’r ail ganrif ar bymtheg.

Mae’r lleill yn cynnwys cenhadwr o Ffrainc a gafodd ei ladd ym Madagascar, lleian a fu’n gofalu am gleifion oedd yn dioddef o’r gwahanglwyf ar ynys Molokai yn  Hawaii a lleian o Sbaen a fu’n gweithio i wella bywydau merched tlawd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Fe gafodd y saith eu henwi mewn seremoni arbennig yn Sgwâr San Pedr, Rhufain bore ΄ma.

Roedd Kateri Tekakwitha yn cael ei hadnabod fel Lily of the Mohawks a bu farw yn 24 oed. Mae’r Fatican yn credu ei bod hi wedi achub bywyd plentyn oedd yn cael ei fwyta’n fyw gan facteria sy’n bwyta cnawd.