Y Costa Concordia
Mae cyn gapten y llong bleser Costa Concordia wedi ymddangos gerbron llys yn yr Eidal i glywed y dystiolaeth yn ei erbyn.

Mae mwy na 1,000 o deithwyr oedd wedi goroesi’r ddamwain ger arfordir Tuscany ar 13 Ionawr hefyd yn y llys ar gyfer y gwrandawiad, ynghyd a theuluoedd  y 32 fu farw a’u cyfreithwyr.

Fe fyddan nhw’n clywed y dystiolaeth yn erbyn Francesco Schettino ac wyth o ddiffynyddion eraill, sy’n cynnwys aelodau o’r criw a swyddogion o gwmni Costa Crociere, sy’n berchen y Concordia.

Mae Schettino wedi ei gyhuddo o ddynladdiad, o achosi’r ddamwain, a gadael y llong tra bod teithwyr a’r criw yn dal ar ei bwrdd. Mae’n gwadu’r cyhuddiadau.