Mae Arlywydd Georgia,
 wedi ildio’r awenau i’r wrthblaid cyn i ganlyniad yr etholiad cyffredinol gael ei gyhoeddi’n swyddogol.

Roedd hi’n amlwg yn gynnar iawn fod y biliwnydd Bidzina Ivanishvili yn bell ar y blaen, ac na allai’r Arlywydd daro’n ôl.

Dywedodd yr Arlywydd: “Mae’n amlwg o’r canlyniadau cynnar fod yr wrthblaid ar y blaen ac y dylai ffurfio’r llywodraeth, ac y dylwn i, fel arlywydd, eu helpu nhw i wneud hyn.”

Mae plaid Mikhail Saakashvili wedi bod mewn grym ers naw mlynedd.