Fe fydd llai o gydweithio rhwng lluoedd y cynghreiriaid a  milwyr a phlismyn yn Afghanistan, cyhoeddodd y Llu Cynorthwyol Diogelwch Rhyngwladol (ISAF) heddiw.

Mae’n dilyn cyfres o ymosodiadau lle mae milwyr lleol wedi lladd aelodau o luoedd Nato.

Hyd yn hyn eleni, mae 51 o filwyr y lluoedd rhyngwladol wedi cael eu lladd gan filwyr Afghanistan neu filwriaethwyr yn gwisgo eu lifrai.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod 18 o filwyr o Brydain wedi eu lladd mewn ymosodiadau o’r fath ers 2008, gan gynnwys naw eleni.

Dros y penwythnos, cafodd dau filwr o Brydain eu saethu’n farw gan ymosodwr oedd wedi ei wisgo yn lifrai’r heddlu ac yn cymryd arno ei fod wedi cael ei anafu.

Mae ISAF yn mynnu ei fod yn parhau’n ymroddedig i’r bartneriaeth gyda Lluoedd Diogelwch Cenedlaethol Afghanistan (ANSF).

Dywedodd dirprwy weinidog tramor Afghanistan Jawed Ludin ei fod yn deall ymdrechion Nato i ddiogelu eu lluoedd ond roedd yn mynnu nad fyddai’r penderfyniad yn amharu ar y cytundeb i hyfforddi lluoedd Afghanistan i gymryd drosodd yn 2014.