Mae Corwynt Isaac wedi taro arfordir Louisiana ac yn symud tuag at New Orleans.

Mae trigolion New Orleans wedi bod yn paratoi ar gyfer y storm, bron i saith mlynedd union ers i Gorwynt Katrina ladd miloedd ac achosi difrod sylweddol yno.

Er nad yw’r corwynt mor gryf â Katrina yn 2005, mae gwyntoedd cryfion o 80 m.y.a. a glaw trwm wedi golygu bod 200,000 o gartrefi a busnesau heb gyflenwad trydan.

Bu’n rhaid i nifer o bobl adael eu cartrefi ar hyd yr arfordir yn Louisiana a Mississippi oherwydd pryderon y byddai’r corwynt yn achosi i lefel y môr godi.

Mae maes awyr New Orleans wedi cau ac mae’r Maer Mitch Landrieu yn annog pobl i ddefnyddio synnwyr cyffredin a chadw draw o’r strydoedd oherwydd y posibilrwydd o lifogydd.