Mitt Romney gyda'i wraig Ann
Ar ôl ymgyrch a ddechreuodd yn 2011 mae Mitt Romney wedi cael ei enwebu yn swyddogol yn ymgeisydd y blaid Weriniaethol ar gyfer arlywyddiaeth America.

Yng nghynhadledd y Gweriniaethwyr yn Tampa, Florida talodd Ann Romney deyrnged i’w gŵr, ac i’w thad a’i thad-cu o Gymru.

“Rwy’n wyres i löwr o Gymru a oedd yn benderfynol y byddai ei blant yn gadael y pyllau,” meddai Ann Romney.

“Cafodd fy nhad ei jobyn cyntaf pan oedd yn chwe blwydd oed, mewn pentref bach yng Nghymru o’r enw Nantyffyllon, yn golchi poteli yn y Colliers Arms.

“Pan oedd yn bymtheg oed, daeth fy nhad i America. Yn ein gwlad ni, fe welodd obaith a chyfle i ddianc o dlodi.”

Yn gynharach ym mis Awst ymwelodd Ann Romney â chynefin ei thad-cu yn Llangynwyd ger Maesteg. Symudodd David Davies i’r Unol Daleithiau yn niwedd yr 1920au ar ôl bod yn gweithio ym mhwll glo Coegnant.

Roedd araith Ann Romney yn un bersonol ac yn ymgais i apelio at ferched, medd sylwebwyr, er mwyn ceisio cipio pleidleisiau oddi wrth Barack Obama.