Talaith Quebec
Mae protest gychwynodd ym mis Chwefror yn erbyn cynnydd yn ffioedd myfyrwyr Quebec yng Nghanada yn prysur ddatblygu i fod yn fudiad i alw am ryddid i’r dalaith.

Daeth miloedd ynghyd ym Montreal yn ddiweddar i nodi can niwrnod ers i’r myfyrwyr gychwyn protestio yn erbyn cynnydd o 82% mewn ffioedd.

Dechreuwyd taflu cerrig at heddlu terfysg ac fe gafodd cannoedd o brotestwyr eu harestio.

Mae’r myfyrwyr yn cael eu cefnogi gan Blaid y Quebecois sydd eisiau cael annibyniaeth i’r dalaith gan fod y mwyafrif yno yn siarad Ffrangeg.

Mae Prif Weinidog Quebec, Jean Charest, wedi cyflwyno deddf ddadleuol sy’n cyfyngu ar yr hawl i brotestio a dyma sydd wedi ffyrnigo y myfywyr a’u cefnogwyr.

Mae poblogrwydd Charest a’i blaid wedi gostwng yn sylweddol a gan y bydd y flwyddyn nesaf yn flwyddyn etholiad mae sawl colofnydd yn y wasg yn Quebec yn amau y bydd y galw am annibyniaeth yn cynyddu.

Dywedodd Michael Den Tandt yn Post Media News y gall y Blaid Quebecois ddod i rym oherwydd amhoblogrwydd y llywodraeth daleithiol bresennol.

“Mae’n edrych yn go debyg y bydd y Quebecois o’r diwedd yn gweld gwireddu eu breuddwyd am ryddid llawn i’r dalaith o fewn Canada unedig,” meddai.

Mae colofnwyr papurau sy’n erbyn rhyddid i Quebec yn anghytuno. Dywedodd y colofnydd Megan Harris yn y Toronto Sun mai pobl ‘hunan-gyfiawn’ ydi’r protestwyr.

‘Dyw gwleidyddion llywodraeth Canada ddim wedi ymateb i’r digwyddiadau yn Quebec hyd yma ac mae hyn yn cael ei weld fel ymdrech i atal yr holl brotestio rhag troi yn fudiad rhyddid fydd yn apelio at drwch y boblogaeth.