Mae llys yn yr Unol Daleithiau wedi penderfynu fod yn rhaid i gwmni Samsung dalu £665 miliwn i gwmni Apple.
Penderfynodd y rheithgor fod Samsung wedi copïo rhai o ddyluniadau a meddalwedd Apple gan felly dorri eu hawlfraint.
Mae Samsung wedi dweud y bydden nhw’n apelio yn erbyn y dyfarniad.
Roedd penderfyniad y rheithgor yn unfrydol. Mi fuon nhw’n cysidro’r achos am lai na dri diwrnod.
Dywedodd y rheithgor fod Samsung, ymysg pethau eraill, wedi copïo’r dyluniad ar gyfer yr iPhone.
Mae hanner y ffonauSmart sy’n cael eu prynu dros y byd wedi cael eu cynhyrchu naill ai gan Apple neu Samsung.