Anders Breivik
Mae llys yn Oslo wedi penderfynu nad ydi Anders Breivik yn wallgof.

Mae wedi ei ddedfrydu i 21 mlynedd yn y carchar, y ddedfryd hiraf posib yn Norwy. Ond bydd modd ei gadw dan glo am gyfnod hirach os yw’n cael ei ystyried yn fygythiad i boblogaeth y wlad.

Cafodd 77 eu lladd a 242 eu hanafu yn ystod yr ymosodiadau ar 22 Gorffenaf, 2011.

Penderfynodd y pum barnwr yn y llys nad oedd Anders Breivik yn seicotig wrth iddo ffrwydro bom 950kg a saethu 69 o bobol.

Mae’r ddedfryd yn golygu y bydd yn cael ei ddedfrydu i gyfnod yn y carchar yn hytrach na’i gadw dan glo mewn gwallgofdy.

Roedd Anders Breivik wedi mynnu nad oedd yn wallgof, ac yn byddai yn apelio yn erbyn penderfyniad y llys os oedden nhw’n dod i’r casgliad nad oedd yn ei iawn bwyll.

Mae’n honni ei fod wedi gweithredu fel rhan o ryfel yn erbyn Islameiddio Ewrop, a bod y lladdfa yn fodd “creulon ond angenrheidiol” o atal yr amlddiwyllianedd yr oedd ei ddioddefwyr wedi ei gofleidio.

Mae Anders Breivik eisoes wedi dweud ei fod yn bwriadu defnyddio ei gyfnod dan glo er mwyn ysgrifennu sawl llyfr, gan gynnwys hunangofiant yn dangos sut yr aeth ati i gynllunio’r ymosodiadau.

Mae hefyd yn bwriadu datgelu rhagor am Farchogion y Deml, corff y mae yn honni ei fod yn perthyn iddo. Mae’r heddlu’n dweud nad yw’n bodoli.