Yves Leterme, Prif Weinidog Gwlad Belg
Mae gwlad Belg wedi torri ‘record byd’ heddiw am y trafodaethau hiraf erioed cyn ffurfio llywodraeth.

Mae 249 o ddiwrnodau eisoes wedi mynd heibio ers i’r prif bleidiau ddechrau trafodaethau i greu llywodraeth newydd i’r wlad.

Llywodraeth Irac oedd yn meddu ar y record byd cyn hyn.

Yn hytrach na beirniadu’n oedi mai rhai o bobol y wlad yn gobeithio dathlu. Yn ninas Ghent fe fydd  249 o bobl yn dinoethi ar ganol stryd er mwyn nodi’r diwrnod.

Gobaith y trefnwyr yw y bydd miloedd yn cymryd rhan yn y partïon ar draws y wlad, yn yr ardaloedd Ffleminaidd ac yn yr ardaloedd Ffrengig.

Dyw arweinyddion y chwe miliwn o siaradwyr Ffleminaidd ddim wedi gallu cytuno gydag arweinwyr y 4.5 miliwn o siaradwyr Ffrangeg ynglŷn â sefydlu llywodraeth yn y wlad.