Silvio Berlusconi
Mae Prif Weinidog yr Eidal wedi dweud nad yw’n poeni am gael ei erlyn ar gyhuddiad o dalu am ryw gyda phutain o dan oed.

Dyw Silvio Berlusconi ddim yn cymryd sylw o alwadau ar iddo ymddiswyddo chwaith ar ôl i farnwr ddweud bod rhaid iddo wynebu achos llys am dalu i ferch 17 oed o Forocco.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn ac yn dweud eu bod yn “ddi-sail”, yn “ffars” ac yn “warthus”. Mae hefyd wedi cyhuddo’r sawl sy’n ei erlyn o geisio chwalu’r Llywodraeth.

Ddoe, roedd wedi osgoi ateb cwestiynau am yr achos yn ystod cynhadledd i’r wasg am yr economi.

“O gariad at fy ngwlad, dydw i ddim yn mynd i siarad am hyn,” meddai wrth newyddiadurwyr.”Un peth fedra’ i ei ddweud: nad ydw i’n poeni am hyn o gwbl”.

Fe fydd yr achos yn dechrau ar Ebrill 6 gerbron tri barnwr benywaidd.

Dim carchar?

Hyd yn oed os caiff ei ddyfarnu’n euog, mae’n annhebygol yr aiff Silvio Berlusconi i’r carchar.

Byddai’r broses apelio’n cymryd blynyddoedd ac anaml iawn y mae pobol dros 75  oed yn mynd i’r carchar yn yr Eidal. Fe fydd y Prif Weinidog yn 75 ym mis Medi.

Mae Silvio Berlusconi wedi dod trwy pob math o honiadau ac ensyniadau cyn hyn, gan gynnwys rhai am lygredd ac osgoi talu trethi, yn ogystal ag am ei berthynas gyda merched ifanc.

Ac yntau’n berchen ar ran helaeth o ddiwydiant teledu’r Eidal, mae wedi llwyddo i gadw grym a chefnogaeth llawer o bobol gyffredin y wlad gan fod yn Brif Weinidog am dri chyfnod gwahanol.