Gwleidyddion a theulu brenhinol Norwy
Mae trigolion Norwy yn coffau’r rhai laddwyd gan Anders Behring Breivik yn Norwy flwyddyn i heddiw.

Lladdwyd 77 o bobl wedi i Breivik osod bom ym mhencadlys y llywodraeth yn Oslo gan ladd 8 cyn mynd i ynys Utoya a saethu 69 mewn gwersyll haf i ieuenctid Plaid Lafur y wlad.

Wrth osod torch ar safle’r ffrwydriad yn Oslo, dywedodd y Prif Weinidog Jens Stoltenberg nad oedd Breivik wedi llwyddo i ddinistrio ymrwymiad Nowry i fod yn wlad gynhwysol, amlhiliol.

“Roedd y bom a’r saethu i fod i newid Norwy. Fe wnaeth pobl Norwy ymateb trwy goleddu ein gwerthoedd. Fe gollodd y trsoeddwr. Enilliodd y bobl.”

Fe fydd Mr Stoltenberg yn teithio i ynys Utoya yn ddiweddarach heddiw i annerch cangen ieuenctid y Blaid Lafur sydd yno eto eleni, cyn gosod torch er cof am y rhai laddwyd am 18:45 sef yr union adeg y cafodd Breivik ei arestio.

Cynhelir cyngerdd coffa cenedlaethol wedyn.

Roedd Brehivik wedi ceisio cyfianwhau’r ymosodiadau trwy ddweud ei fod yn ceisio achub Norwy rhag Mwslemiaid a mewnfudwyr.

Bydd barnwyr yn cyhoeddi y mis nesaf os y bydd yn cael ei anfon i garchar newu i ward seiciatryddol ddiogel.