Tref Mardan
Fe gafodd 27 o filwyr Pacistan eu lladd ar ôl ymosodiad gan hunan-fomiwr mewn gwisg ysgol.

Roedd y dyn wedi llwyddo i fynd i mewn i un o wersylloedd hyfforddi’r fyddin yng ngogledd-orllewin y wlad a ffrwydro bom.

Dyma un o’r ymosodiadau gwaetha’ yn yr ardal ers misoedd ac, yn ôl yr heddlu lleol, mae mwy na 40 o filwyr wedi eu hanafu hefyd.

Fe fydd yn codi pryderon eto bod gwrthryfelwyr y Taliban a therfysgwyr al Qaida’n dal i allu taro yn erbyn yr awdurdodau.

Y cefndir

Does yr un mudiad wedi hawlio cyfrifoldeb eto ond mae’r Taliban wedi cynnal ymosodiadau tebyg yn y gorffennol.

Yn ystod y flwyddyn neu ddwy ddiwetha’, mae byddin Pacistan wedi bod yn canolbwyntio ar geisio cael gwared ar y gwrthryfelwyr o’r ardal sy’n agos at y ffin gydag Afghanistan.

Roedd ymosodiad ar yr un gwersyll yn nhref Mardan wedi lladd 35 o bobol yn 2006.