Bob Dylan a Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi cyflwyno Medal Rhyddid yr Unol Daleithiau i rai o fawrion gwleidyddol a diwylliannol yr Unol Daleithiau, mewn seremoni yn Washington.

Roedd y derbynyddion yn cynnwys y cerddor gwerin Bob Dylan, y gofodwr John Glenn, arlywydd Israel, Shimon Peres, a’r nofelydd Toni Morrison.

Dywedodd yr arlywydd bod y dyrfa sylweddol oedd wedi ymgasglu er mwyn gwylio’r seremoni wobrwyo “yn dangos pa mor cŵl yw’r criw yma – mae pawb eisiau dod i’w gweld nhw”.

Ychwanegodd bod sawl un o’r rheini oedd yn derbyn medalau’r diwrnod hwnnw yn “arwyr” iddo.

“Rydw i’n gwybod eu bod nhw wedi cael effaith fawr ar fy mywyd i,” meddai. Dywedodd ei fod wedi darllen Song Of Solomon gan Toni Morrison pan oedd yn ddyn ifanc.

“Roedd yn wers nid yn unig ynglŷn â sut i ysgrifennu, ond sut i fod a sut i feddwl,” meddai.

Ychwanegodd ei fod hefyd wedi gwrando ar gerddoriaeth Bob Dylan yn ystod ei flynyddoedd yn y coleg, a theimlo “fy myd yn agor – roedd wedi llwyddo i gyfleu rhywbeth am y wlad yma oedd mor fyw a hanfodol”.