Senedd-dy Gwlad Groeg yn Athen (o wefan Wikipedia)
Bu’r doctoriaid sy’n streicio yng Groeg yn gwrthdaro â’r heddlu y tu allan i senedd y wlad heddiw, wrth i brotestiadau yn erbyn y toriadau ledaenu’r tu hwnt i’r undebau.  

Daeth mwy na mil o ddoctoriaid, a rhai mewn cotiau gwynion, i wrthdystio yng nghanol Athens yn erbyn cynlluniau i gyflwyno rheolau monitro mwy llym ar wariant gwasanaeth iechyd y wlad.  

Bu’r heddlu’n defnyddio chwistrellau pupur yn ystod y gwrthdaro, ond fe ddaeth y ffrwgwd i ben heb anafiadau nac arestio.  

 Gwrthwynebu toriadau  

Mae undebau mwyaf y wlad yn ystyried streic cyffredinol ar gyfer 23 Chwefror, a daeth cyhoeddiad heddiw y bydai siopwyr hefyd yn ymuno yn y brotest gan gau eu siopau am 24 awr.  

Mae Conffederasiwn y Gweithwyr Proffesiynnol, y Creffftwyr a’r Gwerthwyr yn dweud bod un o bob pedwar o’u haelodau sydd â busnes bach – sef 225,000 o fusnesau – yn wynebu’r posibilrwydd o gael eu cau yn 2011.  

Mae’r Prif Weinidog George Papndreou wedi ymateb gan ddweud nad oes gan ei lywodraeth ddewis ond bwrw ymlaen â’r adrefniant anodd.  

“Hyd yn oed pe na bai ganddon ni ddyled, fe fyddai’n rhaid i ni gyflwyno adrefniant sylweddol a newid ein model o ddatblygu, neu fe fyddai dyledion wedi ymddangos yn hwyr neu’n hwyrach,” meddai.  

Mae doctoriaid, cyfreithwyr, fferyllwyr, athrawon a nifer o weithwyr trafnidiaeth cyhoeddus yn cyrmyd rhan yn y streiciau yr wythnos hon yn erbyn toriadau diweddaraf y llywodraeth, sydd newydd ddechrau cyfres o fesurau hir-dymor wedi eu hanelu at dorri’r gor-wariant – sef amod y benthyciad rhyngwladol o 110 biliwn ewro er mwyn adfer economi’r wlad.