Map o India (o wefan Wikipedia)
Mae bron i dair miliwn o weithwyr wrthi ar hyd a lled India heddiw’n cofnodi mwy na biliwn o bobl ar gyfer cyfrifiad un o wledydd mwyaf poblog y byd.
Y cyntaf i gael ei gyfri yn Delhi Newydd oedd yr Arlywydd Pratibha Devising Patil yn ei phalas arlywyddol. Y nesaf oedd pennaeth Plaid y Gyngres, Sonia Gandhi, wrth iddi ateb y 29 cwestiwn ynghylch incwm, crefydd, addysg a chyfleusterau sylfaenol.
Gallai’r manylion hyn helpu adnabod yr ardaloedd lle mae problemau esgeulusdod, tlodi eang, anllythrennedd a diweithdra.
“Dyma’r ail sensws fwyaf yn y byd,” meddai’r Dirpwy Arlywydd Hamid Ansari, ar ôl cael ei gyfrif. Gyda chynnydd o 1.4% yn y boblogaeth yn flynyddol, gallai India herio teitl China fel gwlad fwyaf poblog y byd cyn hir, lle mae’r cynnydd lawer yn llai, ar 0.49% bob blwyddyn.
Mae India yn dweud fod y cyfrifiad, sy’n cael ei gynnal bob 10 mlynedd, yn holl bwysig i’r llywodraeth a’r sector breifat er mwyn gosod polisiau, rhaglenni a chyllidebau.
Am y tro cyntaf, mae’r cyfrifiad nawr yn ystyried a yw pobl yn byw mewn cytiau mwd, neu adeiladau concrit, a oes ganddyn nhw drydan a chyfleusterau carthffosiaeth wrth law, ac a ydyn nhw erioed wedi bod i’r ysgol.
Y miliynau di-gartref sy’n cysgu mewn gorsafoedd trenau, dan bontydd, ac mewn paricau fydd yr olaf i gael eu cyfrif, ar 28 Chwefror, cyn i’r adroddiadau terfynol gael eu casglu erbyn 5 Mawrth, ac yna’u cyhoeddi dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae India wedi cyflogi 2.7 miliwn o bobl ar gyfer y cyfrifo’r 1.17 biliwn o boblogaeth.
Cardiau adnabod i India
Wrth gasglu atebion y cyfrifiad, maen nhw hefyd yn casglu enwau a chyfeiriadau er mwyn eu defnyddio ar Gofrestr Cenedlaethol y Boblogaeth, gyda’r bwriad yn y pen draw o greu cardiau adnabod i bawb.
Bydd yn rhaid i ddinasyddion gael eu llun wedi ei dynnu a darparu olion bysedd i’r cynllun hwn yn ddiweddarach.
Bydd India yn cynnal cyfrifiad cast ar wahan yn ddiweddarach eleni, wedi i swyddogion benderfynnu y byddai’r cwestiwn yn rhy ddadleuol mewn democratiaeth seciwlar ac aml-ddiwylliannol, ac y gallai’r cwestiwn amharu ar atebion gweddill y cyfrifiad petai wedi ei gynnwys.