Rhybudd gan William Hague
Fe allai’r broses heddwch yn y Dwyrain Canol ddiodde’ oherwydd y gwrthdaro yn yr Aifft a gwledydd eraill, meddai’r Ysgrifennydd Tramor, William Hague.

Roedd peryg y byddai’r broses yn cael ei rhoi o’r neilltu a’i gohirio, meddai mewn cyfweliad papur newydd yn ystod ei daith i’r rhanbarth.

Ac mae wedi rhybuddio Israel i roi’r gorau i’w siarad “rhyfelgar” wrth i ddegau o filoedd o brotestwyr barhau i alw am ymddiswyddiad Arlywydd yr Aifft, Hosni Mubarak.

Roedd yn mynnu bod yr helyntion yno ac yn Tunisia, lle cafodd yr Arlywydd ei ddisodli’r mis diwetha’, yn rhoi mwy o bwysau ar Israel a’r Unol Daleithiau i chwilio am gytundeb heddwch yn y Dwyrain Canol.

“Ddylai hwn ddim bod yn amser am iaith ryfelgar,” meddai William Hague. “Mae’n amser i roi mwy o frys yn y broses heddwch yn y Dwyrain Canol.”

Y protestio’n parhau

Ddoe, roedd degau o filoedd o brotestwyr unwaith eto’n llenwi Sgwâr Tahrir ynghanol prifddinas yr Aifft, a’r rheiny’n cynnwys tua 5,000 o athrawon prifysgol a darlithwyr.

Roedd gwrthdystiadau hefyd mewn dinasoedd eraill a doedd mân addewidion am newid gan y Llywodraeth ddim yn ddigon i’w tawelu.