(Llun gan Mohd Fahmi Mohd Azmi)
Mae Americanwr wedi marw ar ôl cael ei drywanu gan geiliog oedd â chyllell yn sownd yn ei goes.

Roedd Jose Luis Ochoa, 35, yn gwylio brwydr ceiliogod yng Nghaliffornia pan ymosododd yr aderyn arno.

Yn ôl y crwner, fe fu farw Jose Luis Ocha yn yr ysbyty ar 30 Ionawr, dwy awr ar ôl iddo gael ei drywanu.

Daeth yr archwiliad post-mortem i’r casgliad fod y dyn 35 oed wedi marw o ganlyniad i “ergyd finiog a nerthol” i’w goes dde.

Dyw hi ddim yn amlwg eto a oedd Jose Luis Ocha wedi oedi cyn gofyn am driniaeth feddygol. Dywedodd swyddfa’r Siryf fod eu swyddogion yn ymchwilio i’r mater ar hyn o bryd.

Mae brwydro ceiliogod yn anghyfreithlon yn yr Unol Daleithiau.