Cairo
Mae Llywodraeth Yr Aifft wedi cyhoeddi y bydd gweithwyr y wladwriaeth yn cael codiad cyflog o 15%, yn y gobaith o ail-ennill rywfaint o boblogrwydd.

Mae gweinyddiaeth Hosni Mubarak yn gobeithio lleddfu dicter trigolion y wlad yn dilyn wythnosau o brotestio ffyrnig yn eu herbyn.

Dywedodd Gweinidog Cyllid Yr Aifft, Samir Radwan, y bydd £594m yn cael ei glustnodi ar gyfer y cynnydd mewn cyflogau a phensiynau.

Bydd y codiad cyflog yn dechrau ym mis Ebrill ac yn effeithio ar chwe miliwn o weithwyr yn y sector cyhoeddus.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi addo ymchwilio i dwyll etholiadol a llygredd ymysg eu swyddogion eu hunain.

Sector cyhoeddus

Mae Hosni Mubarak hefyd wedi cyfarfod gyda’r gwrthbleidiau gan gynnwys y blaid waharddedig, y Frawdoliaeth Fwslimaidd.

Yn ogystal â hynny maen nhw hefyd wedi rhoi rhagor o ryddid i’r wasg, ac wedi rhyddhau’r bobl a gafodd eu harestio adeg y protestio.

Er gwaetha’r consesiynau mae protestwyr Sgwâr Tahrir wedi dweud eu bod nhw’n bwriadu aros yn y sgwâr hyd nes y bydd Hosni Mubarak yn rhoi’r gorau i’w arlywyddiaeth.

Mae gweithwyr sector cyhoeddus ymysg prif gefnogwyr llywodraeth Hosni Mubarak.

Ond dyw eu cyflogau heb godi’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf tra bod prisiau bwyd a nwyddau wedi mynd i fyny.