Gorsaf Fukushima yn dilyn y daeargryn
Mae miloedd o bobol wedi gorymdeithio yn Japan heddiw er mwyn dathlu cau’r olaf o’r 50 adweithydd niwclear yn y wlad.

Fe fydd Japan heb ynni niwclear am y tro cyntaf ers pedwar degawd pan fydd adweithydd gorsaf niwclear Tomari ar ynys ogleddol Hokkaido yn cau heddiw er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw.

Ers y daeargryn a tsunami ar 11 Mawrth y llynedd a achosodd argyfwng gorsaf niwclear Fukushima Dai-ichi, does yr un orsaf niwclear sydd wedi ei gau i lawr er mwyn cynnal gwaith cynnal a chadw wedi ailagor.

“Mae heddiw yn ddiwrnod hanesyddol,” meddai’r ymgyrchydd Masashi Ishikawa wrth dyrfa y tu allan i Barc Tokyo.

“Mae yna nifer fawr o orsafoedd niwclear, ond ni fydd yr un ohonyn nhw yn weithredol heddiw, a hynny o ganlyniad i’n hymdrechion ni.”

Serch hynny, mae llywodraeth yn wlad yn awyddus i ail-gychwyn yr adweithyddion niwclear, gan ddweud y bydd pris ynni yn cynyddu’n sylweddol os yw’r wlad yn ddibynnol ar olew a nwy.

Mae yna hefyd gefnogaeth tuag at ailagor y gorsafoedd niwclear gan rhai pobol sy’n byw gerllaw, am eu bod nhw’n darparu swyddi a buddion eraill i’r economi leol.

Mae’r protestiadau yn eu herbyn nhw wedi bod mewn ardaloedd dinesig fel Tokyo gan fwyaf.

Wfftiodd y dyrfa o 5,500 o bobol oedd yn y brotest yn Tokyo rybudd gan y llywodraeth y bydd y wlad yn wynebu colli trydan os nad yw’r gorsafoedd yn cael eu troi’n ôl ymlaen.

Roedd yn amlwg erbyn hyn nad oedd wir angen ynni niwclear ar y wlad, medda’r ymgyrchwyr.