Y Sgrech gan Edvard Munch
Mae darn o waith celf enwog – Y Sgrech gan Edvard Munch – wedi cael ei werthu mewn ocsiwn yn Efrog Newydd am £74 miliwn.

Dyma’r swm mwyaf erioed i gael ei dalu am ddarn o waith celf. Mae’n un o bedwar fersiwn gafodd eu creu gan yr arlunydd o Norwy.