Anders Breivik
Mae Anders Breivik yn ôl yn y llys yn Oslo heddiw ar seithfed diwrnod yr achos llofruddiaeth.
Fe fydd nifer o lygad-dystion yn rhoi tystiolaeth heddiw, gan gynnwys y swyddog diogelwch oedd yn gweithio yn adeilad y llywodraeth lle ffrwydrodd bom oedd wedi ei osod gan Breivik, gan ladd wyth o bobl.
Mae Breivik eisoes wedi cyfaddef iddo ladd 77 o bobl fis Gorffennaf y llynedd. Ddoe, roedd yr eithafwr asgell de wedi ymddiheuro am ladd y rhai “anwleidyddol” yn yr ymosodiad bom yn Oslo, ond nid am y rhai gafodd eu saethu’n farw ar ynys Utoya.