Breivik yn y llys
Mae’r eithafwr asgell dde Anders Behring Breivik wedi dychryn llys yn Oslo gyda’i ddisgrifiadau cignoeth o sut yr aeth ati i ladd 77 o bobol yn Norwy y llynedd.

 Meddai’r llofrudd lluosog 33 oed: “Mae rhai ohonyn nhw’n hollol ddiymadferth. Fedran nhw ddim rhedeg. Maen nhw’n sefyll yn gwbwl stond. Dyma rywbeth nad ydyn nhw fyth yn ei ddangos ar y teledu…roedd yn rhyfedd iawn.”

 Roedd Breivik yn siarad yn bwyllog wrth ddisgrifio sut y bu iddo wysgo fel plismon a chamu ar fferi i ynys Utoya er mwyn saethu pobol ifanc.

 “Mi geisiodd fy holl gorff fy atal pan wnes i afael yn y dryll. Roedd yna 100 o leisiau yn fy mhen yn dweud ‘Paid â gwneud hyn, paid â gwneud hyn’,” meddai.

Datgelodd Breivik ei fod wedi defnyddio’r We i ddysgu sut i ffrwydro a saethu a chreu dinistr, wrth astudio ymosodiadau gan al Qaida a’r bomiwr Timothy McVeigh a laddodd 168 o bobol wrth ffrwydro bom ger adeilad yn perthyn i Lywodraeth America yn Oklahoma yn 1995.

Cyfeiriodd Breivik at al Qaida fel “y mudiad chwyldroadol mwya’ llwyddiannus yn y byd”, a dywedodd y dylai fod yn ysbrydoliaeth i griwiau milwriaethus adain dde, er bod eu hamcanion yn hollol wahanol.

“Rydym ni eisiau creu fersiwn Ewropeaidd o al Qaida,” meddai.

Wrth ymddangos yn gwbwl ddiedifar wrth ddisgrifio’i dactegau a’i arfau mewn ffordd ddidaro, mae Breivik wedi ypsetio teuluoedd y rhai fu farw.

Yn ôl y dyn o Norwy roedd yn defnyddio iaith “dechnegol” yn fwriadol fel ffordd o gadw’iI grebwyll.

“Mae’r rhain yn weithredoedd ofnadwy, yn weithredoedd barbaraidd,” meddai. “Pe bawn i wedi ceisio defnyddio iaith mwy normal nid wyf yn credu y byddwn wedi medru trafod yr hyn ddigwyddodd o gwbwl.”