Yr eglwys gadeiriol o gardbord
Fe fydd eglwys gadeiriol wedi ei gwneud o gardbord yn cael ei chodi yn Christchurch yn Seland Newydd i gymryd lle’r un gafodd ei difrodi yn y daeargryn y llynedd.

Fe fydd yr adeilad dros dro yn 82 troedfedd o uchder ac wedi ei wneud o 104 o ddarnau o gardbord.

Roedd yr eglwys gadeiriol wreiddiol ymhlith nifer o adeiladau ynghanol y ddinas gafodd eu difrodi yn y daeargyn a laddodd 185 o bobl.


Yr eglwys gadeiriol gafodd ei difrodi
Dywedodd llefarydd ar ran yr eglwys, y Parch Craig Dixon, y byddai’r eglwys gadeiriol dros dro â lle i 700 o bobl ac y byddai’n costio £2.6 miliwn. Fe fydd yn cael ei defnyddio am 10 mlynedd nes bod adeilad parhaol i gymryd ei lle yn cael ei chynllunio a’i hadeiladu.

Cafodd yr eglwys gadeiriol o gardbord ei chynllunio gan y pensaer o Siapan, Shigeru Ban.

Y gobaith yw y bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn o fewn chwech wythnos ac yn cael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn.