Abdelbaset al Megrahi tuag adeg y bom
Fe fydd dogfennau newydd yn cael eu cyhoeddi heddiw a fydd yn codi cwestiynau pellach am rôl llywodraethau Prydain a’r Alban yn y penderfyniad i ryddhau bomiwr Lockerbie.

Mae’r Llywodraeth yng Nghaeredin yn dweud eu bod am gyhoeddi rhagor o wybodaeth gefndir er mwyn dangos fod y penderfyniad wedi ei wneud mewn modd priodol.

Ond mae yna gyhuddiadau bod Llywodraeth yr SNP wedi gofyn am gonsesiynau gan Lywodraeth Prydain am gytuno i ryddhau’r Libyad Abdelbaset al Megrahi.

Mae negeseuon e-byst sydd wedi dod i’r amlwg eisoes yn awgrymu bod y Gweinidog Cyfiawnder yn yr Alban, Ken McAskill, wedi gofyn am bwerau newydd ym maes rheoli gynnau ac amodau byw carcharorion.

‘Mater arall’

Dadl yr SNP yw bod y trafodaethau hynny’n ymwneud â mater arall llai uniongyrchol – awydd Llywodraeth Prydain i gynnwys al Megrahi mewn cytundeb trosglwyddo carcharorion gyda Libya.

Roedd Llywodraeth yr Alban yn erbyn hynny ac fe wnaethon nhw wrthod yn y diwedd, cyn rhyddhau al Megrahi am resymau meddygol.

O’r dechrau, mae yna gyhuddiadau wedi eu gwneud yn erbyn y ddwy lywodraeth, gan gynnwys honiadau bod Llywodraeth Prydain eisiau rhyddhau’r bomiwr er mwyn cael cytundebau masnachol gyda Libya.