Ellen Bialystock (o wefan Prifysgol York)
Mae adroddiad newydd yn cadarnhau honiadau bod siarad mwy nag un iaith yn help i atal symptomau dryswch a chlefyd Alzheimer.

Fe gafodd papur ymchwil ei gyhoeddi gan dîm dan arweiniad seicolegydd o Brifysgol York yn Toronto, Canada  – mae’n ystyried canfyddiadau gwaith ymchwil yn y maes tros y blynyddoedd diwetha’.

Mae’n dangos fod dwyieithrwydd yn rhoi mwy o adnoddau ymenyddol wrth gefn i bobol oedrannus.

Taro’n hwyrach

Yn ôl Ellen Bialystock, mae arolwg o wahanol ddarnau o waith ymchwil yn y maes yn cadarnhau’r honiadau bod siarad mwy nag un iaith yn gyson yn llesol.

Roedd ymchwil gan ei thîm hi wedi sefydlu bod clefyd Alzheimer yn taro pobol ddwyieithog yn hwyrach na phobol uniaith.

Roedd astudiaethau eraill yn dangos eu bod pobol ddwyieithog yn gallu parhau i weithredu’n effeithiol am amser hwy, er bod sganiau o’r ymennydd yn dangos bod y clefyd wedi datblygu ynddyn nhw.

Adnoddau wrth gefn

Fe gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi mewn cylchgrawn o’r enw Trends in Cognitive Science ac mae’n canolbwyntio ar “adnoddau ymenyddol wrth gefn”, gan ddweud bod dwyieithrwydd yn cynyddu’r rheiny.

Mae adran Ellen Bialystock hefyd yn gwneud gwaith ymchwil ym maes plant, gan ddangos bod plant ifanc yn gallu gwneud rhai tasgau ymenyddol yn well os ydyn nhw’n siarad mwy nag un iaith.

Un esboniad posib, meddai, yw bod gallu’r ymennydd i reoli gwybodaeth yn cryfhau wrth orfod penderfynu’n gyson rhwng dwy iaith.