Un o symbolau Prifysgol Oikos (o wefan y brifysgol)
Roedd problemau ariannol a phersonol gan ddyn sy’n cael ei amau o saethu saith o bobol yn farw mewn coleg yn yr Unol Daleithiau, yn ôl adroddiadau heddiw.

Roedd gan One Goh ddyledion ac roedd wedi bod yn galaru ar ôl marwolaeth ei frawd, meddai’r heddlu.

Ond roedd hefyd wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael ei bryfocio dros safon ei Saesneg ym mhrifysgol Gristnogol Oikos.

Cefndir One Goh

Roedd One Goh yn frodor o Dde Corea ond dywedodd yr heddlu ei fod bellach yn ddinesydd yn yr Unol Daleithiau.

Ym mis Ionawr cafodd ei ddiarddel o brifysgol Oikos, ble’r oedd yn astudio nyrsio. Yn ôl yr heddlu roedd yn “ddig”.

“Mae’n sefyllfa drist” meddai pennath yr heddlu Howard Jordan.“Mae gyda ni saith o bobol nad oedd yn haeddu marw a thri arall wedi eu hanafu o achos bod rhywun yn methu ymdopi gyda phwysau bywyd.”

Cysylltiad Virginia

Bu One Goh yn byw yn bennaf yn nhalaith Virginia, ble’r oedd myfyriwr wedi lladd 32 o bobol mewn coleg yn 2007.

Y gyflafan yn Oakland yw’r gwaethaf yn yr Unol Daleithiau ers hynny.