Gamal Mubarak - wedi mynd
Dyw ymddiswyddiad arweinydd plaid y llywodraeth yn yr Aifft ddim wedi bod yn ddigon i dawelu’r protestwyr yn y wlad.

Ond mae’r prif noddwr rhyngwladol, yr Unol Daleithiau, wedi croesawu’r newid gan ddweud bod angen newid graddol.

Ddoe, fe ymddiswyddodd y pwyllgor o chwe dyn sy’n arwain y Blaid Ddemocrataidd Genedlaethol, a’r rheiny’n cynnwys Gamal Mubarak, mab yr Arlywydd.

Roedd ef wedi cael ei weld yn olynydd naturiol i’w dad ac fe fydd ei ymddiswyddiad yn cael ei gweld yn fuddugoliaeth i’r gwrthdystwyr.

Ond mae Hosni Mubarak ei hun yn dal i wrthod mynd ac mae’n ymddangos bod yr Unol Daleithiau bellach yn cefnogi hynny.

‘Angen newid graddol’

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol, Hillary Clinton, wedi cefnogi’r symudiadau sy’n cael eu harwain gan y Dirprwy Arlywydd Omar Suleiman ac mae un o genhadol yr Unol Daleithiau wedi rhybuddio rhag newid rhy gyflym.

Fe fyddai gorfodi’r Arlywydd i fynd yn awr, meddai, yn golygu cynnal etholiadau dan yr hen drefn a hynny’n sicrhau bod plaid y llywodraeth yn ennill eto.

Ond mae miloedd o brotestwyr wedi aros yn Sgwâr Tahrir yng nghanol y brifddinas Cairo gan ddweud na fyddan nhw’n gadael nes bod Mubarak yn mynd.