Madrid
Mae’r nifer o bobl sy’n hawlio budd-dal diweithdra yn Sbaen wedi cynyddu am yr wythfed mis yn olynol.

Bu cynnydd o 39,000 yn y nifer o bobl sy’n derbyn budd-dal diweithdra yn Sbaen yn ystod mis Mawrth, ac mae 4.75 miliwn o bobl yn derbyn budd-dal diweithdra yn y wlad bellach.

Mae ffigurau diweithdra Sbaen yn cael eu cyhoeddi ar wahân, ac yn uwch na ffigwr y budd-daliadau gan fod budd-dal nifer o bobl wedi dod i ben. Ar ddiwedd 2011 roedd 22.9% o’r boblogaeth yn ddi-waith, sef 5.3 miliwn o bobl.

Ddoe cyhoeddodd corff Eurostat mai Sbaen sydd â’r lefel diweithdra uchaf o blith gwledydd yr Undeb Ewropeaidd, a’r lefel uchaf o ran diweithdra ymhlith pobl ifanc. Mae dros hanner – 50.5% – o bobl Sbaen sydd dan 25 oed yn ddi-waith.