Mae saith o bobl wedi cael eu saethu a’u lladd mewn prifysgol fechan yn yr Unol Daleithiau.

Mae’r heddlu wedi dweud mai dyn 43 oed, One Goh, oedd yn gyfrifol am y gyflafan.

Aeth i mewn i’r Brifysgol ganol bore gan saethu dynes yn y dderbynfa i ddechrau cyn mynd ati i saethu pobl mewn sawl ystafell ddosbarth.

Mae Prifysgol Oikos yn Oakland, Califfornia, yn brifysgol breifat, Gristnogol, sy’n gwasanaethu’r gymuned Coreaidd yn yr ardal.

Mi roedd One Goh yn fyfyriwr nyrsio yn y Brifysgol ond doedd o ddim wedi bod mewn darlith ers misoedd.