Mitt Romney
Mae plaid y Democratiaid wedi bod yn ymosod yn hallt ar Mitt Romney, y ffefryn clir i ennill enwebiad y blaid Weriniaethol i fynd ben-ben gyda Barack Obama am swydd arlywydd yr Unol Daleithiau.

Byddai buddugoliaeth i Mitt Romney yn rhagetholiad Wisconsin yfory i bob pwrpas yn selio ei enwebiad, ac eisoes mae plaid y Democratiaid wedi bod yn targedu Mitt Romney am fod “allan o gysylltiad” â phobl gyffredin.

“Dwi ddim yn cofio gweld ymgeisydd arlywyddol sydd mor anystyriol o’r hyn mae pobl dosbarth canol cyffredin yn meddwl ac yn gofidio amdano” meddai’r is-arlywydd Joe Biden.

Os caiff Mitt Romney ei ethol yn arlywydd fe fyddai ymhlith y dynion cyfoethocaf erioed i ddal y swydd, ac mae’n debygol y byddai’r Democratiaid yn targedu hynny.

Yn ystod ei ymgyrch am enwebiad y Gweriniaethwyr mae Mitt Romney wedi ceisio cael bet am $10,000 gyda gwrthwynebydd, ac wedi nodi bod ei wraig yn gyrru “cwpwl o Gadillacs”.

Mae’r Democratiaid hefyd wedi bod yn ymosod ar sylw Mitt Romney mai Rwsia yw “gelyn daearyddol-wleidyddol pennaf” yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Hillary Clinton fod y sylw “wedi dyddio”, tra ychwanegodd Joe Biden fod Mitt Romney yn ymddangos yn “anwybodus ac yn sownd mewn rhyw ffordd o feddwl Rhyfel-Oeraidd”.