Aung San Suu Kyi
Mae Aung San Suu Kyi yn gobeithio bod ei buddugoliaeth mewn etholiad ar gyfer senedd Burma yn nodi cyfnod newydd yn hanes y wlad.

Wrth annerch miloedd o’i chefnogwyr tu allan i bencadlys yr wrthblaid, dywedodd  Aung San Suu Kyi fod yr etholiad yn “fuddugoliaeth i’r bobl”.

Nid yw’r ffigurau swyddogol wedi eu rhyddhau ond mae plaid Aung San Suu Kyi yn hawlio ei bod hi wedi ennill sedd yn senedd Burma.

Byddai buddugoliaeth i Aung San Suu Kyi yn garreg filltir wrth i Burma geisio ymgodi o gyfnod o reolaeth filwrol.

Roedd y cyn-enillydd Gwobr Heddwch Nobel 66 oed wedi ei charcharu yn ei chartref gan y jwnta milwrol ers bron i ddau ddegawd, a bydd yn cymryd sedd mewn senedd sy’n cael ei dominyddu gan ddynion y fyddin.

Yn ôl adroddiadau cynnar enillodd plaid Aung San Suu Kyi 43 o’r 44 sedd wnaethon nhw eu hymladd, gan gynnwys pedair sedd yn y brifddinas, Naypyitaw.

Ildiodd y jwnta eu grym nhw y llynedd, a synnu eu gwrthwynebwyr mwyaf pybyr drwy ryddhau carchariorion gwleidyddol, arwyddo cadoediadau gyda gwrthryfelwyr a dechrau trafodaethau gyda Aung San Suu Kyi.

Mae gwylwyr etholiadol o Ewrop wedi dweud fod yr etholiad yn Burma wedi bod yn “ddigon argyhoeddiadol” ond heb ddatgan yn sicr fod ganddyn nhw hygrededd.

“Roedd arfer da ac ewyllys da, sy’n bwysig” meddai Małgorzata Wasilewska, pennaeth gwylwyr yr Undeb Ewropeaidd.