Micah True
Daethpwyd o hyd i gorff y rhedwr pellter hir enwog, Micah True, pedwar diwrnod ar ôl iddo fynd i loncian yng Nghoedwig Genedlaethol Gila yn nhalaith New Mexico.

Darganfuwyd ei gorff gan chwilwyr mewn ardal anghysbell o’r goedwig, meddai’r heddlu.

Does dim awgrym eto beth achosodd ei farwolaeth, a doedd dim arwydd o unrhyw anafiadau ar y corff, medden nhw.

Roedd Micah True, 58 oed, yn un o arloeswyr y rasys pellter hir ‘Ultra’. Cofnodwyd ei anturiaethau yn llyfr Christopher McDougall, Born to Run.

Y gred yw ei fod yn bwriadu rhedeg 12 milltir o The Wilderness Lodge i Hot Springs, lle’r oedd yn aros.

Dywedodd ei gyfaill a pherchennog The Wilderness Lodge, Dean Bruemmer, ei fod wedi gweld ei gyfaill amser brecwast.

Doedd Micah True ddim wedi dweud beth oedd ei lwybr ac roedd hynny wedi gwneud chwilio amdano’n anoddach, meddai.

Roedd wedi rhedeg yno sawl gwaith o’r blaen ac roedd hynny’n gwneud ei ddiflaniad yn fwy o ddirgelwch byth, meddai Dean Bruemmer.