Mohamed ElBaradei - rhybuddio
Mae ffrwydrad wedi bod ar bibell sy’n cario nwy o’r Aifft i Israel a therfysgwyr sy’n cael y bai.

Yn ôl sianel deledu’r Aifft, roedd ymosodwyr wedi manteisio ar y sefyllfa ddiogelwch yn y wlad ac achosi difrod sylweddol i’r bibell yn ardal Sinai yn agos at y ffin ag Israel.

Mae’r awdurdodau yn yr Aifft yn dweud eu bod wedi llwyddo i ddiffodd y cyflenwad nwy i’r bibell ond maen nhw’n gorfod ymladd fflamau mawr yn ardal y ffrwydrad.

Pwysau’n cynyddu

Yn y cyfamser, ar ôl protestiadau eto yn Cairo ddoe gan 100,000 o bobol, mae’r pwysau’n cynyddu ar i’r Arlywydd Hosni Mubarak ymddeol ar unwaith.

Mae’n ymddangos bod yr Unol Daleithiau bellach yn credu y bydd mwy o anhrefn os bydd yn aros yn hytrach na mynd.

Mae o leia’ 11 o bobol wedi cael eu lladd yn y gwrthdaro rhwng gwahanol garfannau yn ystod y dyddiau diwetha’.

Rhybudd rhag brys

Ond mae un o arweinwyr posib y gwrthbleidiau yn yr Aifft, Mohamed ElBaradei, wedi rhybuddio rhag symud yn rhy gyflym at lywodraeth cwbl wahanol.

Roedd Hosni Mubarak wedi cael gwared ar bob gwrthwynebiad swyddogol, meddai, ac fe fyddai’n cymryd blwyddyn i greu digon o amrywiaeth i gael llywodraeth newydd.

Fe alwodd am benodi nifer o ffigurau amlwg i greu llywodraeth tros dro.

Awyren arbennig

Mae disgwyl y bydd rhagor o bobol o wledydd Prydain yn gadael yr Aifft heddiw wrth i awyren arbennig adael Cairo.