Teigr
Fe fuodd dyn farw yn Indonesia ar ôl i deigr Sumateraidd prin ymosod arno.
Daethpwyd o hyd i gorff Ketani, 52 oed, yn ne Sumatera, yn ôl swyddog storfa cyrff Ysbyty Cyhoeddus Jambi.
Roedd Ketani wedi gweld y teigr ger ei gartref ac wedi rhybuddio pobol eraill oedd gerllaw. Wrth iddo ffoi ymosododd yr anifail arno.
Mae Indonesia yn gartref i tua 400 o deigrod Sumateraidd. Maen nhw bron a diflannu yn llwyr oherwydd datgoedwigo , hela a gwrthdaro â phobol.
Dywedodd y WWF bod nifer y teigrod yno wedi disgyn o tua 1,000 yn y 1970au i tua 400 heddiw.