Cairo
Mae pum protestiwr arall wedi marw yn ystod gwrthdaro treisgar ym mhrifddinas Yr Aifft ac mae’r ymladd wedi ail-ddechrau heddiw.

Mae’n golygu bod ffigwr swyddogol y marwolaethau wedi codi i 145 ers dechrau’r protestiadau yno ddechrau’r wythnos ddiwetha’.

Fe ddywedodd Gweinidog Iechyd Yr Aifft, Samih Farid, bod 836 o bobl wedi cael eu cludo i’r ysbyty hefyd gyda 86 yn dal i gael triniaeth.

Roedd y mwyafrif wedi cael eu hanafu gan bobol yn taflu cerrig, ond roedd yna rywfaint o saethu hefyd a bomiau potel yn cael eu taflu.

Roedd y gwrthdaro ddoe a thros nos rhwng y protestwyr sy’n galw am gael gwared ar yr Arlywydd, Hosni Mubarak, a rhai o’i gefnogwyr.

Tensiwn yn parhau

Mae’r tensiwn wedi parhau yn y brifddinas, Cairo, y bore yma gyda thua 2,000 o wrthwynebwyr yr Arlywydd wedi eu baricedio eu hunain yn Sgwâr Tahrir ac mae disgwyl i’r awdurdodau geisio’u symud yn hwyrach heddiw.

Mae Is-lywydd Yr Aifft, Omar Suleiman, wedi annog protestwyr i adael canol Cairo.

Ond mae arweinydd yr wrthblaid wedi galw am fwy o brotestio i orfodi Hosni Mubarak i roi’r gorau i’w arlywyddiaeth yn syth yn hytrach nag aros tan yr etholiadau ym mis Medi.